Os na allwch chi a'ch cyn bartner gytuno ar faterion penodol am eu plant, fel lle y byddant yn byw, gallwch fynd â'r achos i'r llys fel y gall y llys ddod i gytundeb ar eich cyfer. Gelwir hyn yn orchymyn llys.
Os oes mater rhyngoch na allwch chi a'ch cyn bartner ei ddatrys, mae gorchymyn llys yn golygu bod rhywun arall yn gyfrifol am y penderfyniad. Mae gorchymyn llys yn rhoi canllawiau cadarn i'r ddau ohonoch weithio arnynt os na allwch ddatrys pethau trwy ddefnyddio cyfryngu neu ffynonellau eraill o help.
Gall cais i'r llys helpu i ddechrau trafodaethau ble nad yw un rhiant yn ymateb i'r llall. Os na fydd eich cyn bartner yn cwrdd ag unrhyw ran o'r gorchymyn llys, gallwch ddweud wrth y gwasanaeth llys a gofyn iddynt gymryd camau i wneud yn siŵr y cwrddir â thermau'r gorchymyn llys.
Gall mynd i'r llys fod yn straen arnoch chi a'ch plant a gall ceisio cael gorchymyn llys fod yn broses hir a chostus. Hyd yn oed os byddwch yn cael cymorth cyfreithiol efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o'r arian neu'r swm llawn a gewch yn ôl. Unwaith y byddwch wedi cychwyn ar gais i'r llys gallech deimlo bod pethau yn mynd tu hwnt i'ch rheolaeth.
Efallai na chewch yn union beth y gofynnoch amdano. Weithiau ni fydd y naill riant yn hapus gyda'r penderfyniad a wnaed gan y llys. Byddwch hefyd angen dod o hyd i gyfreithiwr i'ch cynrychioli. Gall Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr neu Gymdeithas Gyfreithiol Yr Alban eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.
Gall llysoedd wneud amryw o orchmynion, gan gynnwys:
- gorchmynion preswyl sy'n penderfynu gyda phwy ddylai'r plant fyw
- gorchmynion cyswllt yn datgan pwy gaiff y plant eu gweld neu gan bwy y cânt dderbyn llythyrau neu alwadau ffôn
- gorchmynion ynglŷn â materion penodol fel pa ysgol y bydd eich plant yn mynd iddi
- taliadau cynhaliaeth reolaidd i wŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil (ni fydd hyn eich rhwystro chi na'ch cyn bartner rhag gwneud cais i'r CSA am gynhaliaeth plant)
- talu cyfandaliadau, neu drosglwyddo eiddo
- gorchymyn camau gwahardd i stopio rhieni rhag gwneud pethau fel mynd â phlentyn dramor heb drafod a chytuno gyda'r rhiant arall yn gyntaf.
Ni fydd y llys yn cynnwys trefniadau ar gyfer cynhaliaeth plant yn y gorchmynion llys a restrir uchod.
Yr Alban
Yn Yr Alban gellir dyfarnu taliadau cyfalaf i bobl oedd yn arfer cyd-fyw yn ogystal ag i wŷr, gwragedd neu bartneriaid
sifil, er ni thelir cynhaliaeth reolaidd i bobl oedd yn arfer cyd-fyw.
Gwybodaeth bellach
Gallwch gael mwy o wybodaeth am orchmynion llys yn y daflen ganlynol a gynhyrchir gan wasanaethau'r llysoedd yng Nghymru a Lloegr:
Children and Divorce (PDF:264KB)
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

