HomeSefydlu cynhaliaeth plantCael cymorth cyfreithiol › Cyfreithwyr

Cyfreithwyr

Mae rhai cyfreithwyr wedi'u hyfforddi yn arbennig i ddatrys materion cyfreithiol yn ymwneud â rhieni sy'n gwahanu. Gelwir hyn yn gyfraith gydweithredol y teulu.

Er mwyn defnyddio cyfraith gydweithredol y teulu, bydd yn rhaid i chi a'ch cyn bartner gael cynrychiolaeth gyfreithiol. Hynny yw, bydd angen cyfreithiwr ar y ddau ohonoch. Yna bydd gofyn i chi a'ch cyfreithiwr gwrdd gyda'ch cyn bartner a'u cyfreithiwr wyneb yn wyneb i drafod trefniadau. Bydd y cyfreithwyr yn edrych ar ôl eu cleient eu hunain ac yn rhoi cyngor cyfreithiol tra'n ceisio dod i gytundeb heb ddadl a heb unrhyw achos llys.

Bydd yn rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol a ffioedd llys, er bydd yn llai costus na mynd i'r llys. Gellir datrys anghydfodau yn gyflym gan nad oes angen aros am ddyddiad i fynd i'r llys. Chi sy'n rheoli'r broses ac yn gwneud y penderfyniadau.

Os na allwch ddod i gytundeb a'ch bod yn penderfynu datrys eich trefniadau drwy'r llys, byddwch angen newid eich cyfreithiwr, ac o bosibl, gallai hyn gynyddu'r costau.

Mae'r broses yn dibynnu ar y ddau bartner yn bod yn onest ac agored ond gall helpu i chi a'ch cyn bartner barhau ar delerau gymharol gyfeillgar.