Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Plant eraill
Plant eraill
Beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu am blant eraill?
Os bydd yn rhaid i riant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant i fwy nag un rhiant â gofal, byddwn yn gweithio allan y cyfanswm o gynhaliaeth plant ar gyfer yr holl blant sy'n rhaid i'r rhiant dibreswyl eu cynnal. Bydd y swm mae'r rhieni â gofal yn ei gael yn dibynnu ar y nifer o blant mae ganddynt hawl i gael cynhaliaeth plant ar eu cyfer.
Beth fydd yn digwydd os bydd gan y rhiant dibreswyl blant eraill yn byw gyda hwy?
Os yw'r rhiant dibreswyl neu eu partner yn cael Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw blant eraill sy'n byw gyda hwy, a'u bod yn talu naill ai'r gyfradd sylfaenol neu'r gyfradd is, yn gyffredinol byddant yn talu llai o gynhaliaeth plant. Mae hyn am eu bod hefyd angen talu am ofal am y plant eraill sy'n byw gyda hwy. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn gweithio allan y swm o gynhaliaeth y dylai'r rhiant dibreswyl ei dalu yn seiliedig ar ran o'u hincwm wythnosol, yn lle eu hincwm wythnosol yn llawn.
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd sylfaenol
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd sylfaenol, ni fyddwn yn ystyried
- 15% o'u hincwm wythnosol net os oes un plentyn yn byw gyda hwy
- 20% o'u hincwm wythnosol net os oes dau blentyn yn byw gyda hwy
- 25% o'u hincwm wythnosol net os oes tri phlentyn neu fwy yn byw gyda hwy.
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd is
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd is, defnyddiwn y tabl isod i weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylent ei thalu.
| Nifer o blant sydd angen cynhaliaeth plant ar eu cyfer | Nifer o blant sy'n byw gyda'r rhiant dibreswyl | Swm safonol | Canran o incwm dros £100 yr wythnos, ond llai na £200, y mae rhiant dibreswyl yn ei dalu. |
|---|---|---|---|
| 1 | 0 | £5, a | 25% |
| 1 | £5, a | 20.5% | |
| 2 | £5, a | 19% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 17% | |
| 2 | 0 | £5, a | 35% |
| 1 | £5, a | 29% | |
| 2 | £5, a | 27% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 25% | |
| 3 neu fwy | 0 | £5, a | 45% |
| 1 | £5, a | 37.5% | |
| 2 | £5, a | 35% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 32.5% |
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd cynhaliaeth i weithio allan faint o gynhaliaeth allai fod yn daladwy.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

