Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Rhwymedigaethau ariannol eraill
Rhwymedigaethau ariannol eraill
Mewn rhai sefyllfaoedd gall naill ai'r rhiant dibreswyl neu'r rhiant â gofal ofyn i ni ystyried ffactorau eraill pan fyddwn yn gweithio allan cynhaliaeth plant. Mae hyn am eu bod yn credu y gallai'r ffactorau hyn effeithio ar y cyfrifiad cynhaliaeth plant. Y term cyfreithiol am ystyried ffactorau eraill yw ‘amrywiad’.
pa ffactorau gallwn eu hystyried ar gyfer rhieni dibreswyl?
Os ydych yn rhiant dibreswyl, gallwn edrych ar y swm o gynhaliaeth plant eto os oes gennych dreuliau arbennig o fwy na £10 yr wythnos, neu £15 os yw eich incwm yn £200 neu fwy, ar gyfer
- cadw mewn cysylltiad â'ch plant (er enghraifft, os yw'r rhiant â gofal wedi symud i ffwrdd yn bell)
- cynnal plant sy'n byw gyda chi sydd ag anableddau neu salwch hirdymor(os yw'r treuliau arbennig yn llai na £10 neu £15 yr wythnos, gallwn dal eu hystyried)
- ad-dalu dyled yr aethoch iddi cyn i chi wahanu oddi wrth y rhiant â gofal, a bod y ddyled er budd y teulu neu aelod o'r teulu
- talu ffioedd ysgol breswyl ar gyfer plant rydych yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer (dim ond costau byw bob dydd neu'r elfen ‘breswyl’ o'r ffioedd y byddwn yn eu hystyried
- gwneud taliadau ar forgais, benthyciad neu bolisi yswiriant i ad-dalu morgais neu fenthyciad ar y cartref roeddech chi a'r rhiant â gofal yn arfer ei rannu. Mae'n rhaid bod y rhiant â gofal a'r plant dal yn byw yn y cartref ac ni ddylech fod ag unrhyw fudd cyfreithiol ynddo.
Gallwn hefyd newid y swm o gynhaliaeth plant os gwnaethoch drosglwyddo eiddo neu arian i'r rhiant â gofal fel rhan o setliad gorchymyn llys neu gytundeb cynhaliaeth ysgrifenedig a wnaed cyn 5 Ebrill 1993. Mae'n rhaid bod yr eiddo neu'r arian a drosglwyddwyd wedi gostwng swm y gynhaliaeth plant a wnaed o dan y gorchymyn llys neu'r cytundeb cynhaliaeth ysgrifenedig. Mae'n rhaid bod gwerth eich cyfran chi o'r eiddo neu'r arian a drosglwyddwyd, ar ôl tynnu unrhyw forgais neu fenthyciad nas talwyd, yn £5,000 neu fwy.
Pa ffactorau gallem eu hystyried ar gyfer rhieni â gofal?
Os mai chi yw'r rhiant â gofal, efallai y byddwn yn edrych ar swm y gynhaliaeth plant eto o dan yr amgylchiadau canlynol
- Os bydd gan y rhiant dibreswyl asedau (arian neu eiddo) sy'n werth mwy na £65,000. O ran eiddo, hwn yw'r gwerth ar ôl tynnu unrhyw forgais nas talwyd sy'n ddyledus o hyd. Nid yw asedau yn cynnwys y cartref mae'r rhiant dibreswyl yn byw ynddo neu asedau maent yn eu defnyddio ar gyfer eu busnes, ond gallai gynnwys eiddo maent yn ei rentu allan
- Os yw'r rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd unffurf neu'r gyfradd sero ar hyn o bryd ond bod ganddynt incwm wythnosol arall o fwy na £100 byddem fel arfer yn ei ystyried. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os yw'r rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd unffurf oherwydd eu bod yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu eu bod yn talu'r gyfradd sero oherwydd bod eu hincwm yn llai na £5 yr wythnos
- Os yw'r rhiant dibreswyl yn rheoli eu hincwm ac yn cael incwm o fwy na £100 yr wythnos gan gwmni neu fusnes (er enghraifft, incwm a dderbyniwyd gan gyfarwyddwyr cwmni fel difidendau)
- Os yw'r rhiant dibreswyl wedi gostwng swm yr incwm gallwn ei ystyried drwy ei ddargyfeirio i rywun arall at ddiben arall, er enghraifft, i mewn i fusnes.
- Os ymddengys bod gan y rhiant dibreswyl ffordd o fyw sy'n gysylltiedig â rhywun sydd ag incwm llawer uwch na'r incwm a ddefnyddiwyd gennym i weithio allan cynhaliaeth plant.
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd unffurf neu'r gyfradd sero ar hyn o bryd, oherwydd eu bod yn cael budd-daliadau penodol, efallai y byddwn hefyd yn edrych ar y cyfrifiad eto os bydd ganddynt incwm arall o fwy na £100 yr wythnos. Rhaid i hwn fod yn incwm byddem fel arfer yn ei ystyried wrth weithio allan cynhaliaeth plant.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

