Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Trefniadau cynhaliaeth plant eraill
Trefniadau cynhaliaeth plant eraill
Beth sy'n digwydd os bydd gan y rhiant â gofal hawl i dderbyn cynhaliaeth plant gan rieni gwahanol?
Gellir rhiant â gofal wneud cais am gynhaliaeth plant gan fwy nag un rhiant dibreswyl. Yn yr achosion hyn, rydym yn gweithio allan faint ddylai pob un rhiant dibreswyl ei dalu ar wahân.
Enghraifft
Mae gan Vicky dri o blant. Mark yw rhiant dibreswyl ei merch, a Chris yn rhiant dibreswyl ei dau fab. Rydym yn gweithio allan faint o gynhaliaeth mae Vicky yn derbyn fel a ganlyn.
Mae Mark yn talu £33 yr wythnos o gynhaliaeth plant i Vicky
(15% o'i incwm wythnosol net o £220).
Mae Chris yn talu £50 yr wythnos o gynhaliaeth plant i Vicky
(20% o'i incwm wythnosol net o £250)
£33 + £50 yw: £83.
Mae Vicky yn cael £83 yr wythnos ar gyfer cynhaliaeth plant.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

