HafanSefydlu cynhaliaeth plantDulliau talu › Rhieni'n byw dramor

Rhieni'n byw dramor

Fel arfer, gall yr Asiantaeth Cynnal Plant ond delio gyda chais am gynhaliaeth plant pan fo'r ddau riant a'r plentyn yn byw yn y Deyrnas Unedig
Yr unig eithriad i hyn yw pan fo naill ai'r rhiant dibreswyl neu'r rhiant â gofal:

  • Yn gweithio dramor ond yn gwasanaethu'r Goron, hynny yw maent yn was sifil neu'n gweithio yng ngwasanaeth llysgenhadol EM neu wasanaeth sifil tramor EM.
  • Yn aelod o'r Lluoedd Arfog
  • Yn gweithio dramor i gwmni sy'n seiliedig yn y Deyrnas Unedig, hynny yw:- mae'r cwmni yn cyflogi pobl i weithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig ond yn gwneud taliadau trwy gyflogres yn y Deyrnas Unedig ; ac mae'r cwmni wedi'i gofrestru o dan ddeddf cwmnïau 1985 (Cymru, Lloegr a'r Alban) neu orchymyn cwmnïau 1986 (Gogledd Iwerddon).
  • Yn gweithio dramor ar secondiad i gorff penodedig, er enghraifft, - o ymddiriedolaeth GIG; neu awdurdod iechyd lleol; neu ymddiriedolaeth ofal cynradd; neu awdurdod lleol.

Os bydd un o'r rhieni yn byw dramor ond nad ydynt yn o dan yr uchod, gall y rhiant â gofal wneud cais i'r llysoedd am gynhaliaeth plant. Os bydd y rhiant â gofal angen help i gasglu'r arian a ddyfarnwyd o dan y gorchymyn llys am gynhaliaeth gallant gysylltu â'r Adran Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO) y Cyfreithiwr Swyddogol a'r Ymddiriedolwr Gwladol. Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth neu - REMO - yw'r broses a ddefnyddir i gofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir gan lysoedd y Deyrnas Unedig, ar gyfer preswylwyr y Deyrnas Unedig, drwy'r llysoedd neu'r awdurdodau mewn gwledydd eraill.

Mae hwn yn drefniant cytbwys sy'n golygu y gellir cofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir dramor, ar gyfer unigolion sy'n byw dramor, yn erbyn preswylwyr y Deyrnas Unedig drwy lysoedd y Deyrnas Unedig.