HafanSefydlu cynhaliaeth plant › Cael cymorth cyfreithiol

Cael cymorth cyfreithiol

Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch ddefnyddio cefnogaeth a chyngor cyfreithiol i'ch helpu i drefnu cynhaliaeth plant.

  1. Gallwch ofyn i gyfreithiwr am gyngor ar ba opsiynau sydd ar gael i chi. Mae bron i bob cyfreithiwr yn gymwys i'ch cynghori ar faterion cyfraith y teulu, ond bydd rhai wedi hyfforddi i fod yn arbenigwyr ar gyfraith y teulu, a gallant hefyd fod wedi hyfforddi i fod yn ganolwyr. Os dymunwch gael cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith y teulu, yna cysylltwch â CLS Direct. Cofiwch fod cyfreithwyr fel arfer yn codi tal am eu hamser.
  2. Mae hefyd ffordd benodol o ddatrys y materion cyfreithiol a wynebir gan rieni sy'n gwahanu, sef cyfraith cydweithio. Mae rhai cyfreithwyr wedi'u hyfforddi'n benodol i ddefnyddio'r dull hwn i ddatrys anghydfodau. Cewch fwy o wybodaeth am gyfraith gydweithredol yma.
  3. Gallwch geisio penderfyniad ffurfiol, gan y llysoedd sy'n gosod allan beth sy'n rhaid i bob rhiant ei wneud. Gall hyn unai fod yn orchymyn cydsynio neu orchymyn llys.
    • Gall gorchmynion cydsynio droi cytundebau preifat, y rhai a wnaed drwy drafodaethau gyda chefnogaeth broffesiynol megis cyfreithwyr, canolwyr neu gyfreithwyr teulu, i gytundebau a ellir eu gorfodi os bydd un o'r rhieni yn methu cadw atynt.Unwaith bydd y llysoedd wedi rhoi gorchymyn cydsynio, gallant wedyn orfodi'r contract rhwng y rhieni Cewch wybod mwy am orchmynion cydsynio yma.
    • Os na allwch chi na'ch partner gytuno ar faterion penodol ynglŷn â'r plant, megis lle byddant yn byw, gallwch fynd â'r achos i'r llys fel bo'r llys yn gwneud cytundeb ar eich rhan. Gelwir hyn yn orchymyn llys. Ond os mai mater trefnu taliadau rheolaidd o gynhaliaeth plant ydyw, dim ond mewn amgylchiadau penodol y gall y llys wneud gorchymyn. Cewch wybod mwy am orchmynion llys yma.

Gall cyrraedd cytundeb drwy'r llysoedd fod yn ddrud ac yn gymhleth iawn.

Efallai byddwch yn elwa o gymorth cyfreithiol a chyngor os byddwch chi a'ch cyn bartner angen help i gyrraedd cytundeb ynglŷn â materion ynglŷn â'ch plant, neu os credwch y byddech yn elwa o gytundeb cyfreithiol.

Er y gallwch geisio cael gorchymyn llys yn syth, fel rheol mae'n well aros i geisio dod i gytundeb ar eich pen eich hun, drwy ganolwr neu help cyfreithwyr yn gyntaf. Os ydych yn parhau mewn anghydfod, gallwch wneud cais am orchymyn llys