Cyfryngu yw pan fydd cyfryngwr hyfforddedig annibynnol yn helpu chi a'ch cyn bartner i gyrraedd cytundeb teg ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer eich plant, cartref, eiddo ac arian. Nid yw'r trefniadau hyn yn gyfreithiol rwymedig.
Beth yw hyn?
Mae cyfryngu yn ffordd o helpu chi a'ch cyn bartner i siarad a gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwneud trefniadau ar gyfer eich plant, cartref, eiddo ac arian. Mae'n anelu i'ch helpu i ddarganfod sefyllfa sy'n cwrdd â'ch anghenion chi, eich cyn bartner a'ch plant, ac rydych i gyd yn teimlo sy'n deg.
Bydd y ddau riant yn ymweld â chyfryngwr teulu annibynnol hyfforddedig fydd yn eich helpu i ddod i gytundeb ynglŷn â'r trefniadau drwy eich annog i ganolbwyntio ar anghenion eich plant, gan gymryd i ystyriaeth eu teimladau hwy a beth maent ei eisiau.
Gall cyfryngwyr fod yn gyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol neu gynghorwyr arbennig sydd wedi dewis hyfforddi i helpu pobl weithio trwy eu hanghydfod.
Nid yw cytundebau sydd wedi'u trefnu drwy siarad â chyfryngwr teulu yn gyfreithiol rwym.
Nid yw cyfryngu yr un fath a chynghori perthynas, ac weithiau mae pobl yn cael anhawster i weld beth yw'r gwahaniaeth. Mae cynghori perthynas yn ceisio helpu pobl i weithio trwy broblemau eu perthynas i'w galluogi i benderfynu p'un ai i aros â'i gilydd ai peidio, tra bod cyfryngu (mewn cyd-destun perthynas) yn helpu pobl sydd wedi gwahanu yn barod i wneud penderfyniadau ynglŷn â'r dyfodol.
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfryngu ynghyd â gweld cyfreithiwr.
Sut mae'n gweithio?
Mae cyfryngu yn cymryd lle mewn lleoliad preifat ac anffurfiol. Yna bydd y cyfryngwr yn helpu'r ddau ohonoch i wneud yn siŵr bod chi a'ch cyn bartner yn:
- gwrando ar beth sydd gan y llall i'w ddweud
- deall anghenion a phryderon eich gilydd
- ceisio dod i gytundeb.
Ni fydd cyfryngwr yn ochri nac yn gwneud penderfyniadau, sy'n cynnwys dweud beth fydd yn eich cytundeb. Yn hytrach byddant yn rhannu syniadau ac eich helpu i ddod i gytundeb y byddwch chi a'ch cyn-bartner yn meddwl sy'n deg a rhesymol ac rydych wedi penderfynu arno gyda'ch gilydd.
Fel arfer bydd y cyfryngwr yn gofyn i chi gwblhau ffurflen a rhoi manylion llawn :
- eich incwm
- yr hyn rydych angen gwario eich arian arno
- eich asedau, arian ac eiddo neu'r ddau, a threfniadau pensiwn
- unrhyw fenthyciad neu ddyledion eraill sydd gennych
- gwybodaeth bwysig arall.
Fel arfer bydd cyfryngu yn parhau am rhwng dau a phum sesiwn, bob un am tua awr a hanner. Fodd bynnag, mae'r amser mae'n cymryd yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich sefyllfa. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn cael sesiwn gyda'r cyfryngwr heb i'ch cyn bartner fod yno.
Fel arfer ar ddiwedd y cyfryngu byddwch yn cael copi ysgrifenedig o'r cytundeb wedi'i arwyddo gennych chi a'ch cyn bartner. Bydd hyn yn eich helpu chi a'ch cyn bartner i deall beth sydd wedi'i gytuno ac mae'n helpu i osgoi anrhefn eto. Yn gyfreithiol ni ellir gorfodi'r cytundeb ysgrifenedig.
Gall cyfryngwyr rhoi gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r gyfraith a sut mae'r system gyfreithiol yn gweithio. Nid ydynt yn gallu rhoi cyngor i chi ynglŷn â'ch hawliau cyfreithiol chi na beth yw'r ffordd orau i chi.
Faint mae cyfryngu yn costio?
Mae gwahanol gyfryngwyr yn codi swm gwahanol. Fel arfer mae hyn yn dibynnu ar y gwasanaeth maent yn ei ddarparu a faint yw eich incwm. Os ydych ar incwm isel neu fudd-dal efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am arian cyhoeddus i dalu'r gost. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Community Legal Service Direct
A yw cyfryngu yn gyfrinachol?
Mae beth bynnag ddywedwch chi neu'ch cyn bartner o flaen cyfryngwr yn gyfrinachol. Ond os bydd y cyfryngwr yn meddwl bod rhywun yn cael eu hanafu'n gorfforol, neu mewn perygl o gael eu hanafu byddant yn hysbysu'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Hefyd, os dywedir rhywbeth sy'n arwain i'r cyfryngwr gredu fod chi neu'ch cyn bartner yn gwneud elw o weithgareddau troseddol efallai bydd rhaid iddynt stopio'r cyfryngu a dweud wrth yr heddlu.
Ni all beth ddywedwch chi neu'ch cyn bartner yn y cyfryngu gael ei ddefnyddio yn y llys. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth ffeithiol. Gall pethau fel manylion incwm neu eiddo gael eu pasio ymlaen i gyfreithwyr a'u defnyddio yn y llys os bydd cyfryngu yn methu.
Gwneud cytundeb wedi'i gytuno drwy gyfryngu yn gyfreithiol rwym
Gallwch wneud eich cytundeb yn gytundeb cyfreithiol rwym drwy gysylltu â chyfreithiwr nes ymlaen os dymunwch. Efallai y byddwch am wneud hyn er mwyn cael cytundeb mwy ffurfiol neu os byddwch yn poeni efallai y byddwch chi a'ch cyn bartner yn dadlau ynglŷn â threfniadau yn y dyfodol.
Os na fyddwch yn rhoi gwybodaeth gywir i'ch cyfryngwr, gallai'r llys wrthdroi unrhyw gytundeb a wnewch.
Sut gallaf gysylltu â chyfryngwr?
Gallwch gysylltu ag unrhyw gyfryngwr teulu a gofyn am apwyntiad. Gallwch gael manylion cyfryngwyr lleol gan eich cyfreithiwr neu'r UK College of Family Mediators neu'r Family Mediation helpline. Mae rhai cyfryngwyr yn darparu gwasanaeth ar gyfer pobl ar incwm isel neu fudd-daliadau. Gall Community Legal Service Direct (CLS Direct) eich helpu i ddod o hyd i gyfryngwr lleol sy'n darparu'r gwasanaeth hwn. Gallwch ffonio CLS Direct ar 0845 345 4 345.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

