HafanSefydlu cynhaliaeth plantDulliau talu › Gwledydd REMO

Gwledydd REMO

orfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth, neu REMO yw'r broses a ddefnyddir i gofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir gan lysoedd y Deyrnas Unedig, ar ran preswylwyr y Deyrnas Unedig, drwy'r llysoedd neu'r awdurdodau mewn gwledydd eraill yn erbyn preswylwyr y gwledydd hynny.

Mae hwn yn drefniant cytbwys sy'n cael ei reoli gan gytuniadau rhyngwladol sy'n golygu y gellir cofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir dramor, o blaid unigolion sy'n byw dramor, yn erbyn preswylwyr y Deyrnas Unedig drwy lysoedd y Deyrnas Unedig.

Sut i wneud cais

Dylai preswyliwr o'r Deyrnas Unedig sy'n dymuno gwneud cais i gael cynhaliaeth gan berson dramor fynd at

  • eu llys ynadon lleol (neu lys sirol lle gwnaed y gorchymyn) os oes ganddynt orchymyn llys presennol ar gyfer cynhaliaeth; neu
  • eu llys ynadon lleol os nad oes gorchymyn presennol

Gallant wneud cais am i'w gorchymyn gael ei orfodi yn y wlad lle mae'r person sy'n atebol i dalu yn byw. Mae gweithdrefnau hefyd yn bodoli i alluogi cais am i awdurdodau dramor greu gorchymyn ar gyfer cynhaliaeth ar eu rhan. Nid oes angen i'r ceisydd gyflogi cyfreithiwr. Bydd staff y llys yn helpu'r ceisydd ac yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod perthnasol. Bydd yr awdurdod yn sicrhau bod y cais yn gywir a'i anfon at yr awdurdod neu lys tramor er mwyn ei gofrestru a'i orfodi yn erbyn y person sy'n byw yno.

Gorfodi

Bydd y ceisiadau tramor yn cael eu gorfodi yn ôl cyfraith y wlad honno. Nid oes gan awdurdodau'r Deyrnas Unedig unrhyw bwer i orfodi llysoedd neu awdurdodau tramor i orfodi gorchmynion cynhaliaeth, neu i osod terfyn amser ar gyfer gorfodaeth, gan fod y system wedi'i seilio ar gytundeb cytbwys. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i annog asiantaethau tramor i gyd-fynd â'u goblygiadau cenedlaethol.

Deddfwriaeth y DU

Y Ddeddf Gorchmynion Cynhaliaeth (Gorfodaeth Gytbwys) 1972 yw'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer gweithredu'r weithdrefn REMO yn y Deyrnas Unedig.

Hefyd mae sawl Offeryn Statudol wedi'i osod ers 1972 er mwyn addasu'r trefniadau manwl rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill, neu i ganiatáu i ddeddfwriaethau ychwanegol gael eu hystyried rhwng gwledydd cytbwys.

Cytuniadau a Chytundebau eraill

Mae'r Deyrnas Unedig yn llofnodwr i nifer o gytuniadau rhyngwladol ar oblygiadau cynhaliaeth, er enghraifft

  • Cytuniad y Cenhedloedd Unedig ar Adennill Cynhaliaeth Dramor 1956;
  • Confensiwn Brwsel ar Awdurdodaeth a Gorfodi Dyfarniadau mewn Materion Sifil a Masnachol 1968; a
  • Cytuniad yr Hâg ar Gydnabod a Gorfodi Penderfyniadau Parthed Goblygiadau Cynhaliaeth 1973

Yn ogystal, mae gan y Deyrnas Unedig Gytundebau ar gyfer gorfodi cynhaliaeth gyda'r rhan fwyaf o aelodau'r Gymanwlad, gyda Gweriniaeth Iwerddon, a gyda'r rhan fwyaf o Unol Daleithiau America.

Rhestr o wledydd cytbwys REMO

A
Yr Algeria
Yr Almaen
Anguilla
Antigwa a Barbuda
Awstria
Awstralia
B
Barbados
Belize
Glwad Belg
Bermwda
Bosnia a Hertsogofinia
Botswana
Brasil
Brwnei
Burkina Faso
C
Canada (nid Cwebéc)
Cape Verde
Cenia
Yr Ynysoedd Cayman
Chile
Croatia
Cyprus
Gweriniaeth Czech
D
De Affrica
Denmarc
Dominica
F
Ynysoedd y Falklands
Y Ffindir
Ffrainc
Fiji
G
Gaiana
Y Gambia
Ghana
Gibraltar
Grenada
Groeg
Guernsey
Gwatemala
Gweriniaeth Ganolig Affrica
H
Haiti
Hong Kong
Hwngari
I
Gwlad yr Iâ
India
Iwerddon
Iseldiroedd
Israel
J
Jamaica
Jersey
K
Kenya
Kiribati
L
Lesotho
Lwcsembwrg
M
Macedonia
Malawi
Maleisia
Malta
Mawrisiws
Mecsico
Monaco
Montserrat
Moroco
N
Nawrw
Niger
Nigeria
Ynysoedd Norfolk
Norwy
P
Pacistan
Papwa Gini Newydd
Philipinau
Gwlad Pwyl
Portiwgal
R
Rwmania
S
St. Helena
St. Kitts a Nevis
St. Lucia
St. Vincent
Seychelles
Sierra Leone
Singapore
Slofacia
Slofenia
Ynysoedd Solomon
Sambia
Sbaen
Seland Newydd
Simbabwe
Sri Lanka
Surinam
Swaziland
Sweden
Y Swistir
T
Tansania
Trinidad a Thobago
Tiwnisia
Twrci
Ynysoedd Twrc a Chaicos
Twfalw
U
Unol Daleithiau (ac eithrio Alabama, Mississippi, De Carolina a Rhanbarth Columbia)
Wrwgwái
V
Virgin Islands
Z
Zambia
Zimbabwe