HafanSefydlu cynhaliaeth plantSut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Hunangyflogaeth

Hunangyflogaeth

Os bydd rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, dylent barhau i dalu cynhaliaeth plant yn y ffordd arferol. Byddwn yn gweithio allan y swm y dylent ei dalu yn seiliedig ar eu hincwm wythnosol a'r nifer o blant y maent yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer. Yr unig wahaniaeth yw'r swm rydym yn ei gyfrif fel incwm.

Beth mae'r CSA yn ei gyfrif fel incwm ar gyfer yr hunangyflogedig?

Rydym yn cyfrif y canlynol fel incwm

  • Enillion o hunangyflogaeth, ar ôl didynnu
    • Treth incwm
    • Yswiriant Gwladol
    • fel arfer unrhyw arian a delir i mewn i gynllun pensiwn. Nid yw hyn yn gymwys os bydd y pensiwn wedi'i drefnu i dalu am forgais, pan mai dim ond 75% o'r arian a delir i mewn i'r cynllun pensiwn sy'n cael ei gymryd o'r incwm.
  • Credyd Treth Gwaith os mai'r rhiant dibreswyl yw'r prif enillydd ar gyfer y cais credyd treth
  • Credyd Treth Plant, pa un ai gaiff ei dalu i'r rhiant dibreswyl neu eu partner (rhywun y maent yn briod â hwy neu'n byw gyda hwy fel pe baent yn briod â hwy)
  • Unrhyw arian o bensiwn galwedigaethol neu bersonol

Sut y mae'r CSA yn gweithio enillion o hunangyflogaeth allan?

Er mwyn gweithio enillion y rhiant dibreswyl allan, byddwn fel arfer yn defnyddio cyfanswm yr enillion trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf a ddengys ar naill ai

  • ar eu ffurflen dreth hunanasesiad y maent yn ei hanfon i Gyllid a Thollau EM, neu
  • ar yr hysbysiad cyfrifiad treth y mae Cyllid a Thollau EM yn ei anfon atynt.

Os na fydd gan y rhiant dibreswyl unrhyw un o'r dogfennau hyn, efallai y gallent gael copi o'r wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM.

Os bydd y rhiant dibreswyl yn anfon ffurflen dreth hunanasesiad a'u bod yn hunangyflogedig mewn mwy nag un busnes, bydd angen ffurflen dreth hunanasesiad ar gyfer pob busnes

Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na allwn weithio enillion o hunangyflogaeth allan yn y ffordd hon. Er enghraifft, os

  • mai newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig y mae'r rhiant dibreswyl
  • na all y rhiant dibreswyl roi ffurflen dreth hunanasesiad neu hysbysiad cyfrifiad treth
  • nad yw'r ffurflen dreth hunanasesiad neu'r hysbysiad cyfrifiad treth yn rhoi darlun clir o enillion arferol y rhiant dibreswyl.

Yn y sefyllfaoedd hyn, byddwn yn gweithio'r enillion allan mewn ffordd wahanol. Byddwn yn defnyddio manylion yr incwm gros (yr holl arian y mae'r busnes, yn hytrach na'r rhiant dibreswyl, wedi'i ennill) a threuliau busnes. Yna byddwn yn didynnu o'r incwm gros

  • unrhyw dreuliau rhesymol a delir i redeg y busnes
  • TAW (treth ar werth)
  • treth incwm
  • Yswiriant Gwladol
  • fel arfer, unrhyw arian a delir i mewn i gynllun pensiwn, ac eithrio pan sefydlwyd y pensiwn i ad-dalu morgais. Os mai dyna yw'r achos, dim ond 75% o'r arian a delir i mewn i'r cynllun pensiwn a gaiff ei ddidynnu o'r incwm gros.

Ni fyddwn yn ystyried colled o ran gwerth unrhyw asedau a ddefnyddir i redeg y busnes, fel cyfrifiadur neu gar, a cholledion eraill.

Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn cyfrifo cynhaliaeth darllenwch Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan? Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?PDF [780Kb]

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i weithio allan faint o gynhaliaeth allai fod yn daladwy.