Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Rhannu cyfrifoldeb rhiant
Rhannu cyfrifoldeb rhiant
Os bydd plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant dibreswyl o leiaf un noson yr wythnos ar gyfartaledd, gallwn ostwng y swm o gynhaliaeth plant y mae'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ei dalu. Gelwir hyn yn ‘rhannu gofal’.
Os byddwch yn rhannu gofal eich plentyn gyda'r rhiant arall, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwn yn gwneud y cyfrifiad newydd.
Mewn achos o rannu gofal, byddwn yn gostwng cynhaliaeth plant ar gyfer y plentyn hwnnw un rhan o saith ar gyfer pob noson o'r wythnos y bydd y plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl.
Os caiff gofal plentyn ei rannu'n gyfartal rhwng y ddau riant, rydym yn
- haneru'r gynhaliaeth plant
- yna'n gostwng y gynhaliaeth plant eto £7 arall yr wythnos ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae'r swm o £7 wedi'i osod yn y gyfraith.
Cyfradd sylfaenol a chyfradd is
Os bydd plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant dibreswyl am o leiaf 52 o nosweithiau y flwyddyn, byddwn yn gostwng y gynhaliaeth plant sy'n ddyledus i riant â gofal y plentyn hwnnw fel a ganlyn.
| Y nifer o nosweithiau y mae'r rhiant dibreswyl yn gofalu am y plentyn dros nos bob blwyddyn | Byddwn yn gostwng y gynhaliaeth plant |
|---|---|
| 52 i 103 | 1/7 |
| 104 i 155 | 2/7 |
| 156 i 174 | 3/7 |
| 175 neu fwy | 1/2 |
Ni all cynhaliaeth plant mewn achosion cyfradd sylfaenol neu gyfradd is ostwng yn is na £5 o ganlyniad i'r addasiadau ar gyfer rhannu gofal.
Cyfradd unffurf
Os yw'r rhiant dibreswyl yn cael budd-dal sy'n golygu eu bod yn talu cynhaliaeth plant ar gyfradd unffurf, a'u bod yn rhannu gofal eu plant am o leiaf 52 o nosweithiau y flwyddyn, ni fydd yn rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu unrhyw gynhaliaeth plant.
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn cyfrifo cynhaliaeth darllenwch
Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?
[780Kb]
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i weithio allan faint o gynhaliaeth allai fod yn daladwy.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

